Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Augusta Waddington ![]() 21 Mawrth 1802 ![]() Y Fenni ![]() |
Bu farw | 17 Ionawr 1896 ![]() Llanofer ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | newyddiadurwr ![]() |
Tad | Benjamin Waddington ![]() |
Mam | Georgina Mary Ann Port ![]() |
Priod | Benjamin Hall ![]() |
Perthnasau | Mary Delany, Charlotte Berrington ![]() |
Noddwraig y celfyddydau, y diwylliant gwerin a'r iaith Gymraeg oedd Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer (21 Mawrth 1802 - 17 Ionawr 1896), neu Augusta Waddington Hall; ganed yn Augusta Waddington. Roedd hi'n adnabyddus hefyd wrth yr enw barddol Gwenynen Gwent. Fe'i cofir yn bennaf fel dyfeisydd y Wisg Gymreig. Roedd yn cefnogi'r Mudiad Dirwest, a chaeodd bob tafarn ar ei hystad.